Main Navigation
Croeso i Theatr y Pafiliwn
- Skip Navigation
- Cartref
- Beth Sy' Ymlaen
- Archebu
- Dod o Hyd i Ni
- Cysylltu â Ni
- Amdanom Ni
- Cyfeillion
- Cynllun Eistedd
- Technegol
Swyddfa Docynnau
Tel: 01745 330 000
Tocynnau anrheg
Mae tocynnau anrheg ar gael yn y Swyddfa Docynnau ac maent yn anrhegion delfrydol ac anghyffredin.
Main Content
Gwybodaeth Archebu
Archebu Ar-lein
Defnyddiwch yr adran Beth Sy' Ymlaen i weld ein rhaglenni sioeau a digwyddiadau'r presennol a'r dyfodol.
Os ydych chi eisiau archebu tocynnau ar gyfer sioe o'ch dewis, defnyddiwch y linc "Archebu Tocynnau" sy'n ymddangos uwchben ac islaw manylion y sioe. Yna dangosir i chi restr o berfformiadau i ddewis ohonynt.
Defnyddiwch y linc "Archebwch Yn Awr" sy'n ymddangos nesaf at y perfformiad rydych â diddordeb ynddo. Byddwch yn mynd at ein gweinydd diogel archebu tocynnau lle medrwch ddethol o'r opsiynau pris sydd ar gael a thalu am eich tocyn drwy gerdyn credyd .
Ar hyn o bryd rydym yn derbyn Cardiau Credyd Mastercard a Visa yn unig ar gyfer talu Ar-lein.
Oriau Agor y Swyddfa Docynnau
Dydd Llun - Dydd Sadwrn
10:00yb - Codi'r llen ar ddyddiau perfformiad.
10:00yb - 6:00yh ar ddyddiau pan nad oes perfformiad.
Dydd Sul
4:00yh - Codi'r llen ar ddyddiau perfformiad.
Wedi cau ar ddyddiau pan nad oes perfformiad.
Archebwch dros y Ffôn neu'n Bersonol
I archebu dros y ffôn, rhowch ganiad i’r swyddfa docynnau ar 01745 330 000 neu galwch i mewn i archebu’n bersonol - yn ystod oriau agor arferol.
Rydym yn derbyn y rhan fwyaf o gardiau Credyd a Debyd yn y Swyddfa Docynnau. Wrth i chi archebu’n Bersonol, rydym hefyd yn derbyn sieciau ac arian.
Archebu drwy’r Post
I archebu drwy'r post, anfonwch siec ar gyfer y swm llawn, yn daladwy i "Theatr y Pafiliwn", ynghyd â manylion y sioe, perfformiad a nifer y tocynnau rydych eu hangen. Gwelir isod gyfeiriad y Swyddfa Docynnau isod. Peidiwch ag anfon arian drwy'r post os gwelwch yn dda.
Y Swyddfa Docynnau ~ Theatr y Pafiliwn ~ Promenâd ~ Rhyl ~ LL18 3AQ
Codir tâl o 35c am bostio’r tocynnau.
Additional Information
Cofrestru.
Er mwyn derbyn y newyddion diweddaraf, gwybodaeth am sioeau a digwyddiadau drwy e-bost cofrestrwch gyda ni os gwelwch yn dda.
Llogi Ystafelloedd.
Mae gennym amrywiad o ystafelloedd a chyfleusterau ar gyfer seminarau, cynadleddau, cyfarfodydd, achlysur priodas, dyddiau hyfforddi a chyflwyniadau gyda'r nos gyda arlwyaeth ar gael os gwneir cais am hynny.
Cysylltu â Ni ar 01745 332414 am ragor o wybodaeth.
Deddf Gwarchod Data (1998)
Ni fydd Theatr y Pafiliwn yn gwneud eich enw a'ch cyfeiriad ar gael i sefydliadau eraill. Efallai y byddwn yn anfon gwybodaeth atoch am ddigwyddiadau sydd i ddod o bryd i'w gilydd, a chynnwys yn achlysurol wybodaeth am sefydliadau cyffelyb. Os nad ydych yn dymuno derbyn gwybodaeth gennym, rhowch wybod i'r swyddfa docynnau'n ysgrifenedig os gwelwch yn dda.
